Canolfan Gyfraith?

Canolfan Gyntaf y Gyfraith (1973)

Canolfan gyfraith yw…

Sefydliad sy’n cyflogi cyfreithwyr cymwys wrth eu gwaith, a all gynnig cyngor cyfreithiol ar lefel arbenigol, ond a all hefyd fynd i’r afael â gweithgareddau cyfreithiol neilltuedig (fel y’u rheoleiddir dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007) – dyna yw canolfan gyfraith. Mae hyn yn golygu y gall cyfreithwyr mewn canolfannau cyfraith gyflwyno a chynnal achosion cyfreithiol ar ran cleientiaid ac y gallant gynnig eiriolaeth mewn llysoedd a thribiwnlysoedd eraill.

Trwy gyflogi cyfreithwyr, bydd modd i’r ganolfan gyfraith dendro am, a derbyn, contractau cymorth cyfreithiol. Mae hwn yn golygu y byddwn ni’n gallu darparu cefnogaeth cyfreithiol i bobl na fedrai ei fforddio fel arall.

Yn fwy na hyn, mae canolfan gyfraith yn gyfrwng ar gyfer defnyddio’r gyfraith i esgor ar newid. Newid i unigolion, newid i gymunedau a newid i’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae canolfannau cyfraith yn fannau arloesol i weithio a gwirfoddoli ynddynt, a chânt effaith eithriadol o fuddiol ar y gymdeithas. Gall canolfan gyfraith:

  1. Gynnig cynrychiolaeth a chyngor cyfreithiol arbenigol o’r radd flaenaf i’r rhai na fyddent, fel arall, yn gallu cael mynediad at gyfiawnder, gyda golwg ar fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb;
  2. Mynd i’r afael ag ymgyfreitha strategol, a allai newid y gyfraith neu dynnu sylw at faterion a fydd yn arwain at drafodaeth a newid;
  3. Defnyddio’i gwybodaeth, ei harbenigedd a’i data i ddylanwadu ar lunwyr polisïau fel y gellir arwain at benderfyniadau gwell a chreu polisïau a gweithdrefnau tecach, mwy cyfiawn a mwy cyfartal;
  4. Addysgu pobl ynglŷn â’u hawliau a’u dyletswyddau a’u helpu i fynd i’r afael â materion cyn iddynt droi’n broblemau, neu o leiaf gydnabod pan fydd mater wedi troi’n broblem a rhoi gwybod pa help a allai fod ar gael.

Wrth gwrs, mae cynnig cynrychiolaeth a chyngor cyfreithiol i unigolion sy’n gallu newid ansawdd eu bywydau’n llythrennol yn brif swyddogaeth canolfan gyfraith. Nid yw anghydraddoldeb erioed wedi bod yn fwy amlwg. Rydym angen canolfannau cyfraith cryf er mwyn inni allu ymdrin â’r materion hyn a chynnig atebion.