Yr Angen

“Yng Nghymru, mae nifer o ardaloedd yn ‘ardaloedd dim cyngor’ bellach – gyda chleientiaid yn gorfod teithio pellter hir i gyrraedd eu cyfreithiwr agosaf.”

Jonathan Davies, Head of Wales for the Law Society responding to the publication of the Commission on Justice for Wales.

Pam rydym angen Canolfan Gyfraith

Yn ôl adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru[1] a gyhoeddwyd ar 28 Hydref 2019, gwelir nad yw’r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru. Medd yr adroddiad:

“Mae’r toriadau sylweddol a wnaed i gymorth cyfreithiol yn 2012 wedi cael effaith andwyol ar Gymru. Ni ellir cael mynediad priodol at gyfiawnder, sydd wedyn yn bygwth Rheolaeth y Gyfraith. Mae hyn wedi arwain at y canlynol:

  • ‘ardaloedd dim cyngor’ mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol lle mae pobl yn ei chael hi’n anodd cael cyngor cyfreithiol;
  • risg ddifrifol i gynaliadwyedd ymarfer cyfreithiol mewn mannau eraill, yn enwedig mewn gwasanaethau cyfreithiol ‘stryd fawr’ traddodiadol;
  • niferoedd cynyddol o bobl yn cynrychioli eu hunain mewn llysoedd a thribiwnlysoedd, gan gael effaith andwyol ar ganlyniadau a’r defnydd effeithlon o adnoddau’r llys.

Yr adolygiad hwn o’r system gyfiawnder gan y Comisiwn oedd y cyntaf o’i fath ers 200 mlynedd, ac aeth ati i bennu gweledigaeth hirdymor ar gyfer ei dyfodol. Mae’n nodi bod angen economi gymysg o gymorth cyfreithiol, y trydydd sector a chyngor a chymorth pro bono.[2] Credwn fod canolfan gyfraith yn rhan hanfodol o’r economi gymysg hon.

Trwy ddatblygu canolfan gyfraith yn y Gogledd, ein gobaith yw y gallwn ddechrau ymdrin â’r angen enfawr mewn rhyw ffordd fach. Dim ond un canolfan gyfraith sy gan Gymru ar hyn o bryd: Canolfan Gyfraith Speakeasy yng Nghaerdydd. Cafodd honno throi’n ganolfan gyfraith o ganolfan gyngor yn 2019 er mwyn iddi allu datblygu ei gwasanaethau cyfreithiol a chynorthwyo pobl a oedd yn ceisio iawn yn y llysoedd. Trwy sefydlu canolfan gyfraith newydd, ein gobaith yw y gallwn wneud yr un peth yn y Gogledd.

Er bod cyfreithwyr ac eraill wedi cynnig help a chyngor pro bono, nid yw’r ymdrechion hyn yn ddigon i wrthbwyso effaith y toriadau mawr mewn gwasanaethau cymorth cyfreithiol ers 2012, pan ddaeth y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr i rym. Dros nos, nid oedd mwyafrif y meysydd cyfraith a oedd yn ymwneud â lles cymdeithasol yn gymwys mwyach i gael cymorth cyfreithiol.

Yn ôl adroddiad gan y BBC yn 2016, dim ond un darparwr tai a oedd i’w gael mewn pedwar rhanbarth yng Nghymru, yn cynnwys Gogledd Cymru[3]. Yn ôl Steve Clarke, rheolwr gyfarwyddwr Tenantiaid Cymru: “Does dim cyn bwysiced â gallu cadw to uwch eich pen, ac mae’r gallu i gael mynediad at gyngor cyfreithiol proffesiynol yn hollol hanfodol ar adeg o argyfwng tai… chaiff hunaneirioli mo’i argymell gyda phwnc mor gymhleth â chyfraith tai. Bydd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar fudiadau gwirfoddol – mudiadau sy’n wynebu toriadau enfawr eu hunain.”

[1] https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-10/Justice%20Commission%20WEL%20DIGITAL.pdf

[2] https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-10/Justice%20Commission%20WEL%20DIGITAL.pdf

[3] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-36906182

Y gwahaniaeth y bydd Canolfan Gyfraith yn ei wneud

Y man cychwyn ar gyfer ein dymuniad i adeiladu canolfan gyfraith yng Ngogledd Cymru yw’r angen am y gwasanaethau cyfreithiol y soniwyd amdanynt eisoes, ond mae gennym resymau eraill dros gredu’n gryf y byddai canolfan gyfraith yn gyfraniad penodol o bwysig i’r sector cynghori sy’n bodoli’n eisoes.

Mae gallu cael gafael ar gyngor yn eithriadol o bwysig a gellir datrys nifer o broblemau gyda chymorth o’r fath. Ond ni all asiantaethau cynghori fynd i’r afael ag ymgyfreitha. Bydd canolfan gyfraith yn cael ei chydnabod yn llawn fel sefydliad a gaiff ei arwain gan gyfreithwyr – sefydliad a fydd yn darparu cyngor o ddechrau’r broses i’w diwedd, yn mynd i’r afael â gwaith achos ac yn cynrychioli pobl mewn llysoedd.

Ein nod yw adeiladu canolfan gyfraith a fydd yn diwallu anghenion nas diwallwyd o’r blaen trwy ddarparu cyngor cyfreithiol yn ymwneud â chyfraith tai, cyfraith mewnfudo, cyfraith gyhoeddus a chyfraith teulu (yn enwedig cam-drin domestig) mewn cytgord gyda’r ecosystem a’r rhwydwaith cynghori sy’n bodoli eisoes. Rydym am ddod ag adnodd ychwanegol i Ogledd Cymru trwy ddatblygu prosiectau a mentrau ar y cyd er mwyn darparu cyngor ail haen i ddarparwyr cyngor presennol a galluogi unigolion i gael mynediad at gyfreithwyr pan na ellir osgoi achosion cyfreithiol, er mwyn eu helpu i orfodi eu hawliau.

Ymhellach, fel canolfan gyfraith byddwn yn rhan o fudiad cenedlaethol uchel ei fri ac uchel ei barch sy’n mynd ati i ymgyrchu a chynrychioli pobl (sef Rhwydwaith y Canolfannau Cyfraith). Bydd hyn yn caniatáu inni weithio’n agos gyda chanolfannau cyfraith eraill, a chyda’r rhwydwaith yn fwy cyffredinol, a hynny ar lefel strategol ac ymarferol. Gallwn rannu syniadau a gwybodaeth gyda rhwydwaith cenedlaethol a fydd yn cynnwys cyfreithwyr o’r un meddylfryd, ynghyd ag elwa ar eu profiadau a’u gwybodaeth wrth inni ddatblygu’r ganolfan gyfraith yng Ngogledd Cymru.

Fel canolfan gyfraith, bydd modd inni dendro am gontract i ddarparu gwasanaethau Cymorth Cyfreithiol mewn meysydd fel cyfraith tai, cyfraith gyhoeddus a chyfraith lloches, a chyda gobaith bydd contract o’r fath yn cael ei ddyfarnu inni. Hefyd, byddwn mewn gwell sefyllfa i geisio cyllid a fydd yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol, addysg cyfraith gyhoeddus a gweithgareddau eraill yn ymwneud â’r gyfraith a chyfiawnder.

Anelwn hefyd at weithio’n agos gyda mudiadau sydd eisoes yn darparu cyngor, ynghyd â chyfreithwyr lleol a myfyrwyr y gyfraith o Brifysgol Bangor. Rydym yn gobeithio creu partneriaethau cryf gyda chyfreithwyr lleol, a chynnig cyfleoedd gwerthfawr o brofiad gwaith a gwirfoddoli i fyfyrwyr y gyfraith.

Ond yn bwysicach na dim byd arall efallai, credwn y bydd creu canolfan gyfraith, ynghyd â’r cyhoeddusrwydd a ddaw yn sgil ei sefydlu a’i phresenoldeb parhaus, yn codi ymwybyddiaeth o hawliau cyfreithiol pobl a’n sicrhau bod gan bawb rywle i droi ato i gael help i orfodi’r hawliau hynny.