Pwy ydyn ni?

Y Grŵp Llywio

Rydym yn sefydliad corfforedig elusennol (rhif cofrestredig 1197787) wedi’i arwain gan ein hymddiriedolwyr. Gyda’n gilydd, rydyn ni am weld canolfan gyfraith yn cael ei datblygu yn y Gogledd ac rydyn ni wedi rhoi ein hamser a’n hadnoddau i lywio datblygiad y ganolfan honno. Rydym yn awyddus i gydweithio gyda sefydliadau eraill ac i drafod sut y medrai canolfan gyfreithiol gefnogi eu gwaith.

Gweithwyr

Katherine Adams (Rheolwr y Ganolfan): Bydd profiad Katherine mewn ymchwil ac ymgysylltu â chymunedau yn helpu Grŵp Llywio Canolfan Gyfraith y Gogledd i adeiladau perthnasau cryf ac ystyrlon gyda rhanddeiliaid a chymunedau lleol, i gryfhau’r sail tystiolaeth am y gwahaniaeth a wnaiff Canolfan y Gyfraith ac i ddatblygu syniadau ymarferol am sut gallai Canolfan y Gyfraith gydweithio gyda sefydliadau lleol.

Ymddiriedolwyr

Crash Wigley (cadeirydd): Mae Crash yn ddisgybl fargyfreithiwr yn Civitas a chyn-gadeirydd interim Young Legal Aid Lawyers. Maen nhw’n dal i gydlynu gwaith YLAL Cymru. Wrth astudio, gwirfoddolodd Crash gyda Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth Liberty. Cyn dechrau astudio’r Gyfraith, arferai Crash fod yn Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd ar gyfer Stonewall Cymru, ac maen nhw’n arwain Cantorion Traws Caerdydd, sef côr ar gyfer pobl draws. Mae Crash yn siarad Cymraeg.

Deborah Wilkins (trysorydd): Mae Debbie wedi treulio 20 mlynedd yn gweithio yn y sector gwasanaethau ariannol, gyda 10 mlynedd yn gweithio i Gyrfa Cymru mewn rôl gynghori a rôl ymchwil. Bu’n gyfarwyddwr ac yn sylfaenydd cwmni buddiant cymunedol ac mae wedi bod yn gysylltiedig â nifer o gymdeithasau cymunedol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn y trydydd sector i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sef y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, ac mae’n gweithio’n benodol yn y maes cyllid Ewropeaidd.

Ron Davison: Mae Ron yn Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni cyfreithiol mwyaf Gogledd Cymru, Gamlins Law. Mae’n eiriolwr angerddol o ran cyfiawnder cymdeithasol. Fe ymgymhwysodd Ron yn gyfreithiwr yn 2003. Mae ei arfer cyfreithiol yn cwmpasu cyfraith gwlad, gyda phwyslais penodol ar faterion cyflogaeth. Hefyd mae gan Ron arfer helaeth mewn Cyfreitha Masnachol ac mae wedi cynrychioli nifer o gwmnïau yn yr Uchel Lys. Tu allan i’r swyddfa, mae Ron yn dilyn rygbi yn awyddus, wedi iddo orfod hongian ei sgidiau llawer o flynyddoedd yn ôl. Roedd Ron yn Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Swydd Caer a Gogledd Cymru yn 2017 ac mae hefyd yn dal nifer o rolau Cyfarwyddwr Anweithredol.

Daniel Scrase: Fe dyfodd Dan i fyny ym Mangor a gweithiodd am 12 mlynedd yn y trydydd sector yn y Gogledd, yn arbenigo mewn iechyd meddwl a lles. Mae’n dod â phrofiad o reoli timoedd mawr o wirfoddolwyr ar gyfer y Royal Voluntary Service a Cruse Bereavement Support. Mae’n credu’n frwd mewn gwerth gwirfoddolwyr, sy’n benodol o bwysig wrth greu gwasanaethau blaengar i gefnogi pobl mewn angen. Ar hyn o bryd, mae’n astudio am radd Meistr yn y Gyfraith ac Ymarfer Gyfreithiol ym Mhrifysgol BPP a’n gwirfoddoli gyda Vauxhall Law Centre yn y tîm cyngor dyled. Tu allan i’r gwaith, mae’n mwynhau cynhemlu a chodi pwysau, ond ddim wastad ar yr un pryd.

Jabez Oakes: Mae Jabez wedi byw yng ngogledd Cymru ers dros 15 mlynedd. Mae ganddo radd yn y gyfraith o Brifysgol Caer ac mae’n hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr. Mae’n gynghorydd tref yn Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae wedi gweithio yn y trydydd sector ers sawl blwyddyn fel Gweithiwr Achosion Tribiwnlysoedd Nawdd Cymdeithasol. Mae’n gwirfoddoli yn ei gymuned leol ac yn y rhanbarth ehangach trwy Gyngor Tref Rhuthun, gan annog ymgysylltiad ar lawr gwlad.

Acton Afonso: Mae Acton yn gyfreithiwr dan hyffordiant gyda JW Hughes a’i Gwmni, yn gweithio yn eu swyddfa yn Llandudno. Ar hyn o bryd, mae o yn ei ail flwyddyn, yn cael sedd yn y tîm gyfraith teulu. Mae ei waith arferol yn cynnwys achosion ysgariad, ceisiadau dan y Ddeddf Plant 1989 a materion cam-drin domestig. Mae’n gwneud cyngor a gwaith ar gymorth cyfreithiol hefyd. Yn ei amser sbâr, mae’n mwynhau chwarae pêl-droed, gwylio teledu a mynd am dro ar y traeth.

Dr Daniel Newman: Mae Dan yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi bod yn gweithio yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ers 2015. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder. Mae ei brosiectau’n cynnwys ystyried effaith cyni ar y sector cynghori, archwilio sut y mae toriadau mewn cymorth cyfreithiol troseddol yn effeithio ar y berthynas rhwng y cleient a’r cyfreithiwr dan gymorth cyfreithiol troseddol, ac ystyried y modd y gwneir niwed i ardaloedd gwledig trwy wario llai ar gyfiawnder. Ef yw awdur Legal Aid Lawyers and the Quest for Justice.

Matthew Court: Mae Matthew yn gyfreithiwr a ymunodd â thîm gwaith achos Public Law Project (PLP) yn 2020. Ers mis Ionawr 2021, mae Matthew wedi arwain gwaith PLP yng Nghymru ac wedi bod yn cydweithio gyda phartneriaid PLP yng Nghymru i wella mynediad at rwymedïau cyfraith gyhoeddus i bobl yng Nghymru. Cyn dod i Public Law Project, gweithiodd Matthew fel cyfreithiwr yng nghwmni cyfreithiol GT Stewart Solicitors, lle gweithredodd dros amrywiaeth eang o gleientiaid gan gynnwys mudwyr, plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal. Cyn cymhwyso fel cyfreithiwr, gweithiodd Matthew am dros 10 mlynedd yn y sector elusennol yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain.

Sue James: Sue yw prif weithredwr Legal Action Group (LAG). Cyn ymuno â LAG, roedd hi’n gyfarwyddwr a chyfreithiwr Canolfan Gyfraith Hammersmith a Fulham ac un o ymddiriedolwyr sefydlu Canolfan Gyfraith Ealing. Mae wedi bod yn gyfreithiwr tai ers 30 mlynedd. Yn 2017, enillodd wobr cyflawniad eithriadol yng Ngwobrau Cyfreithwyr Cymorth Cyfreithiol y Flwyddyn.  Mae’n awdur ym maes y gyfraith ac yn gydolygydd uchel ei pharch ar gyfer y Llawlyfr Cymorth Cyfreithiol. Hefyd mae’n ysgrifennu ynghylch ac yn ymgyrchu dros faterion yn ymwneud â mynediad at gyfiawnder.

Cynghorwyr

Mae’r ymddiriedolwyr yn cael eu cefnogi gan ein cynghorwyr, sy’n dod â chyfoeth o brofiad proffesiynol i’n gwaith.

Annie Bannister: Mae Annie wedi cael gyrfa lwyddiannus eisoes yn y maes marchnata. Bellach, mae hi wedi cwblhau ei Chwrs Practis Cyfraith ac mae ynghanol ei chyflogaeth ymgymhwyso i ddod yn gyfreithiwr.  Ers 2018 mae hi wedi gweithio fel gweithiwr achosion mewn cwmni cyfreithiol anafiadau personol, lle mae mwyafrif ei hachosion yn ymwneud â charcharorion. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfiawnder yn erbyn caethwasiaeth fodern, a hithau wedi gweithio ers 2012 gyda rhwydwaith Ewropeaidd sy’n anelu at atal masnachu pobl (RENATE), a bellach mae hi’n aelod o Grŵp Gorchwyl Cyfreithiol y rhwydwaith hwnnw. Hefyd, yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio gyda Hope for Justice, gan gynorthwyo’r tîm eiriolaeth a pholisi.

Warren Palmer: Warren yw cyfarwyddwr Canolfan Gyfraith Speakeasy (ar hyn o bryd unig ganolfan gyfraith Cymru). Ers 20 mlynedd, mae wedi bod yn gweithio fel cyfreithiwr sy’n arbenigo mewn budd-daliadau lles. Yng Ngwobrau Cyfraith Cymru yn 2003, cafodd ei enwi’n Gyfreithiwr Pro Bono y Flwyddyn.